Wednesday 19 February 2014

Dewisiadau Iaith

Un cwestiwn sy'n codi'n aml tra'n dylunio gwefan dwyieithog yw sut i ddangos opsiwn i newid iaith. Wel, i fod yn onest, mwy na thebyg dydi'r cwestiwn ddim yn codi - mae nifer o wefannau yn jyst defnyddio baneri cenedlaethol, heb feddwl am arwyddocâd y baneri o gwbl - e.e.




ond mae hyn yn gwbl warthus!

Baner y ddraig goch yw baner POB UN Cymro a Chymraes, beth bynnag eu hiaith(oedd) - Cymry Cymraeg, Cymry di-Gymraeg neu dysgwr. Baner Sior yw baner Lloegr - ond Saesneg yw iaith bobl mewn llawer o wledydd, gan gynnwys Cymru.

Mae rhai hyd yn oed yn defnyddio Jac yr Undeb ar gyfer Saesneg:

(vistcardigan.com)



(dyna gwefan Cered, Menter Iaith Ceredigion - dylen nhw gwybod yn well! Ond o leiaf mae enw'r iaith yno hefyd)

Jac yr Undeb yw baner y Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys Cymru (lle mae rhai bobl yn siarad Cymraeg), Lloegr (Saesneg yn unig, yn swyddogol), Gogledd Iwerddon (Saesneg a Gaeleg) a'r Alban (am y tro, o leiaf) - Saesneg a Gaeleg yr Alban. Gwbl anghywir.

Credaf mai'r unig opsiwn yw defnyddio enw'r iaith - yn yr iaith, felly 'Cymraeg' ac 'English' (ac efallai 'Castellano' yn Ne America ac 'Español' yn Ewrop, Български neu beth bynnag)

Dyma enghraifft o wefan wnaethon ni datblygu ar gyfer prosiect EU:


www.futureforest.eu






No comments:

Post a Comment